• English
  • Cymraeg

 

W401b

Mae’r stwcen o ddysgl frecia hon gyda chlustiau yn 8cm o uchder. Nid oes dyllau drwy’r clustiau, sy’n awgrymu naill ai fod y llestr heb ei orffen neu’n symbolaidd ei bwrpas.

Byddai llestri o’r math hwn yn llafurus i’w gwneud ac mae’n ddigon posib mai monopoli brenhinol oedd eu cynhyrchu. Felly, awgrymwyd mai symbolau o statws neu arwyddion o rym ydynt. Dim ond ym meddrodau’r cyfoethog y maen nhw i’w cael ac mae hyd yn oed haenen o aur ar rai ohonynt. Mae arysgrifau o enwau brenhinoedd ar nifer ac oddi wrth yr enwau gallwn gasglu fod rhai brenhinoedd yn mynd â llestri brenhinoedd eraill i’w cyfadeiladau angladdol hwy eu hunain.

Efallai hefyd fod brenhinoedd yn rhoi llestri carreg yn rhoddion i wŷr y llys ac aelodau o’u teuluoedd.

Mae’r math hwn o lestr yn dyddio o’r 1af i’r 5ed Frenhinllin er yn fwy cyffredin yn ystod y 1af i’r 3ydd, pinacl cynhyrchu llestri carreg yn yr Aifft. Amcangyfrifir bod mwy na 40,000 o lestri carreg wedi’u rhoi ym mhyramid grisiau Saqqara yn unig! Cafwyd niferoedd mawr yn Abydos hefyd a niferoedd llai mewn safleoedd eraill yn yr Aifft. Gallwch weld rhagor o lestri o’r un dyddiad mewn mannau eraill yn yr oriel.

Mae’r enghraifft hon wedi’i gwneud o frecia calchfaen. Weithiau bydd llestri crochenwaith gyda phatrymau troellog, fel yr un ar y chwith, yn cael eu darganfod, sy’n awgrymu eu bod yn efelychu enghreifftiau brecia.

Weithiau dywedir mai’r rheswm fod llestri carreg yn cael eu darganfod mewn beddau, yn enwedig yn y Cyfnod Dynastig Cynnar, yw am fod carreg yn ddeunydd diddarfod. Mae felly’n gweddu’n anad dim ar gyfer claddiadau. Nid yw’n ymddangos i’r llestri fod â defnydd ‘bob-dydd’. Mae nifer heb eu cafnu’n iawn sy’n awgrymu mai symbolaidd yn unig ydynt.

Mae brecia coch i’w gael mewn llawer safle ar lan orllewinol yr afon Nîl. Ymddengys i’r defnydd ohono leihau o’r 4edd Frenhinllin ymlaen. Dim ond yn achlysurol y byddai’n cael ei ddefnyddio mewn cyfnodau diweddarach. Am gynhyrchu llestri carreg gweler 2013.

Dydyn ni ddim yn gwybod o ble yn yr Aifft y daeth y gwrthrych hwn. Prynwyd ef mewn arwerthiant gan Syr Henry Wellcome ym 1906 o gasgliad Robert de Rustafjaell.

 

Other stone vessels in the Egypt Centre

Other Predynastic and Early Dynastic artefacts in the Egypt Centre

css.php